Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                        Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod lleoliad y testun presennol yn ffurflen RHW17 i’w ddiwygio yn amlwg yn y testun Cymraeg. Mae geiriau agoriadol rheoliad 4 yn cynnwys geiriad sy’n ddisgrifiadol ei natur yn hytrach na geiriad sy’n dyfynnu pennawd. Ymhellach, mae paragraffau (a) a (b) o reoliad 4 yn nodi union leoliad y testun Cymraeg presennol i’w ddiwygio trwy ddyfynnu penawdau ac is-benawdau y mae’r testun hwnnw wedi ei leoli oddi tanynt.

 

Pwynt Craffu Technegol 2 a):                    Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y geiriau “oherwydd mae’r” yn ramadegol gywir yn y cyd-destun hwn. Pan fo ‘oherwydd’ wedi ei ddilyn gan ferf gadarnhaol fe’i hystyrir yn gysylltair cydradd yn hytrach na chysylltair isradd.

 

Pwynt Craffu Technegol 2 b):                    Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod dyddiad y Ddeddf ar goll. Er bod hyn yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru o’r farn nad yw’n cael unrhyw effaith ar weithrediad Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/244 (Cy. 72)).